Rygbi’r Hen Hogia
‘Da chi wedi laru ar olchi llestri, torri gwair neu gweld peldroed ar y bocs?
‘Da chi rhwn 35 a 105 oed a wedi chwarae rygbi ers blynyddoedd neu ishio chwarae rygbi, neu, jest ffansio dod a’r cholesterol i lawr?!
Tydi Rygbi’r Hen Hogia dim mor wyllt a rygbi vetrans, ond mae’n dal i fod yn gem fywiog a chaled wrth gwrs.
Beth am ymunno a’r GOGs i weld y byd, cyfarfod pobol ddifyr a mwynhau rygbi?
Arwyddair Rygbi’r Hen Hogia ydy: Hwyl, Brawdgarwch a Chyfeillgarwch, a mae’n ‘na ddigon o hwnnw i gael efo’r GOGs.
Mae’r GOGs wedi teithio i Awstralia, Iwerddon, Canada, Ffrainc, Sbaen, Seland Newydd, Y Swisdir a Bethesda!
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.