Hanes y Gogs

May 23rd, 2007

Y Gogs yn BenidormFe sefydlwyd Y GOGs (Geriatrics o Gymru) yn 1993 i fynychu Gwyl Rhyngwladol yr Henoed Aur yn Nulyn, Iwerddon ac ers hyny ‘rydym wedi teithio’r byd yn chwarae Rygbi’r Henoed.

Mae rhai o’r GOGs yn eu 40au, y rhan fwyaf yn eu 50au ac ychydig o hen begors yn eu 60au. Nid oes unrhyw enwau mawr yn ein mysg ond mae, Brynmor Williams, Gareth Davies a Jonathan Davies wedi gael gwahoddiad i chwarae i’r GOGs ac nid oes ‘ru’n ohonynt wedi gwrthod hyd yn hyn!

Yn Nghaernarfon mae cartref Y GOGs ac ‘rydym yn gweithredu o Glwb Rygbi Caernarfon sy’n chwarae yn gyngrair 4 y Gogledd.

Ers 1993 mae Y GOGs wedi mynychu gwyliau rhyngwladol yn:

1995 – Christchurch – Seland Newydd

1997 – Vancouver – Canada

1999 – Cape Town – De Affrica

2001 – Toulouse – Ffrainc

2003 – Brisbane – Awstralia

a

2004 – Benidorm – Sbaen – Gwyl EGOR

2006 – Zurich – Y Swisdir – Gwyl EGOR

Enillwyd brif Gwpan yr Wyl – Y Battered Relic Cup gan Y GOGs yn Zurich.

Y GOGs yw’r unig dim o Gymru sydd wedi cynrychioli’r wlad yn y gwyliau hyn. Mae gan ein chwaraewyr yrrfaoedd diddorol gan gynnwys; Gwerthwyr Celfi Rhyngwladol, Prif Wenidogion, Bugailiad, Cynhyrchwyr Tedi Bers, Barwniaid Cyffuriau a Deintyddion!

Bydd yr ail Gwyl Y GOGs yn cael ei gynnal yn mis Mehefin 2007 a bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ymarfer ar gyfer cynnal Gŵyl Rygbi’r Hen Hogia Ewrop yn 2010.

Homepage