Garin Jenkins yw Llysgennad 10fed Gŵyl Rygbi’r Hen Hogia (a genod!) Ewrop yng Nghaernarfon yn 2010Â
Mae Garin Jenkins, cyn chwaraewr Abertawe, Cymru a Llewod Ynysoedd Prydain a’r Iwerddon, wedi croesawu’r cyfle i fod yn Lysgennad y 10fed Gŵyl Rygbi’r Hen Hogia Ewrop yng Nghaernarfon ym mis Mehefin 2010.
“Wedi derbyn y fraint o gynrychioli fy mhentre a fy ngwlad ar lawer o lwyfannau mawr rygbi y byd, ‘rwy’n hynod o falch o gael fy ngwahodd i fod yn Lysgennad ar gyfer yr Å´yl yma yn 2010, fydd ymryson o’r dewr, y tlws a’r breintiedig” meddai Garin wrth dderbyn yr her o fod yn Lysgennad yr Å´yl.
Mae cartref Y GOGs (Geriatrics O Gymru) yng Nghlwb Rygbi Caernarfon yng Ngogledd Cymru a nhw yw’r unig dîm i gynrychioli Cymru ar lwyfannau rhyngwladol y byd. Dywedodd eu Cadeirydd, Emrys Jones, “Rydym yn falch iawn o lwyddo i ddennu’r Å´yl fawreddog yma i dref Caernarfon a dyma’r tro cyntaf mae Cymru wedi cael cyfle i’w chroesawu’r. Rydym yn disgwyl dros 1,000 o ymwelwyr i Gaernarfon ym mis Mehefin 2010. Fe aeth Y GOGs i’r nawfed Å´yl ym Madeira llynnedd gyda thros 40 tîm o 16 gwlad led-led Ewrop yn cymryd rhan. Ar hyn o bryd gyda blwyddyn i fynd mae gennym 36 tim wedi eu cofrestru yn barod a thros 1,100 o fynychwyr. Mae ffigyrau’n dangos bydd yr economi leol yn elwa o rhwng £500.000 a £600.000 dros 4 diwrnod yr Å´yl.
Y dyddiau hyn mae Rygbi’r Hen Hogia yn rhoi cyfle i’r rhai ohonom , yn ddynion neu’n ferched sydd dros 35 oed, i gadw’n iach a pharhau i fwynhau chwarae’r gêm rydym yn ei charu mewn ffordd sydd yn annog “Hwyl, Brawdgarwch a Chyfeillgarwch” sef arwyddair Rygbi’r Hen Hogia.
Ychwanegodd Mr. Jones: “Fel rhan o ddathliad chwaraeon a diwylliant bydd Clwb Rygbi Caernarfon hefyd yn cynnal Twrnament Rygbi i’r Ieuenctid ar ddydd Sadwrn yr Wyl. Bydd Tref Caernarfon yn derbyn cymorth enfawr i’r economi leol yn ystod a wedi’r Å´yl”. Gydag ychydig yn llai na flwyddyn i fynd mae 36 tîm o’r gwledydd canlynol eisioes wedi cofrestru ar gyfer Gŵyl 2010 : Cymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Lithuania, Swisdir, Yr Almaen, Sbaen, Rwsia, Israel, Yr Eidal, Portugal a’r Ariannin.
Cysylltwch â: Emrys Ll Jones (Cadeirydd Y GOGs) am fwy o wybodaeth:
Ffôn: 01286 672070
Sym: 07717257493
E-bost: emojos@btinternet.com