Mae’r cyfnod hwn yn un cyffrous i chwaraeon yn y DU – Y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, Gemau y Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, Gŵyl Rygbi’r Hen Hogia y Byd yng Nghaeredin yn 2008 ac yn awr mae cynnig Caernarfon i gynnal Gŵyl Rygbi Ewropeaidd yr Hen Hogia yn 2010 wedi bod yn llwyddiant.
Beth sy’n gwneud y digwyddiad yma yn un arbennig?
Mae’n un o brif Wyliau Rygbi’r Hen Hogia byd eang gyda thimau o bob rhan o’r cyfandir yn cymryd rhan.
Mae’n ddigwyddiad unigryw ac yn ddegfed ŵyl yn y gyfres , dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal y tu allan i brif ddinas Ewropeaidd ac y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yng Nghymru. Mae hefyd yn ddigwyddiad sy’n ymwneud yn rhannol â chwaraeon, yn rhannol â chyfnewid diwylliannol ac yn ddathliad o chwaraeon, yn gadarnhad fod chwaraeon yn uno pobl waeth beth fo’u cefndir, waeth beth fo’u hoedran.
Ymhlith lleoliadau eraill y cynhaliwyd yr ŵyl mae Aberdeen, Split, Benidorm /Alicante, Zurich a bydd Madeira yn cynnal yr ŵyl yn 2008.
Bydd y timau yn teithio o bob rhan o Ewrop sy’n golygu y bydd rhwng 500 a 1000 o bobl, chwaraewyr a chefnogwyr yn ymweld â Chaernarfon dros bedwar diwrnod yr ŵyl. Bydd nifer o dimau Prydeinig yn cymryd rhan hefyd.
Cynhelir y 10fed Ŵyl ddwyflynyddol ar Fehefin 10-13eg , 2010 ac fe’i threfnir gan
Y GOGs yng Nghlwb Rygbi Caernarfon (R.F.C.) ac fe chwaraeir y gemau ar feysydd y Clwb ar y Morfa yn ogystal â meysydd y Cyngor ar yr Aber.
Yn fyr, bydd rhaglen yr ŵyl fel â ganlyn:
Dydd Iau – Cyrraedd a pharti gyda’r nos,
Dydd Gwener a Sadwrn – Dau ddiwrnod o gemau rygbi,
Dydd Sadwrn, teithiau dewisol o amgylch atyniadau lleol ac adloniant amrywiol gyda’r nos mewn tafarndai lleol yn y dref.
Dydd Sul - Cinio Ffarwel.